Y Gymanfa Gyffredinol
Y Gymanfa Gyffredinol yw cyfarfod blynyddol unedig tair talaith y Gymdeithasfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru. (Y Gymdeithasfa yn y Gogledd, Y Gymdeithasfa yn y De a Y Gymdeithasfa yn y Dwyrain).
Mae’n cyfarfod mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru. Croesewir tua 150 o gynrychiolwyr sy’n cynrychioli’r pedair henaduriaeth ar ddeg, y Gymdeithasfa yn y tair talaith, a thri Bwrdd yr Eglwys. Croesewir hefyd wahoddedigion o enwadau eraill gan gynnwys eglwysi yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor.
Y Gymanfa Gyffredinol
Mae’r Gymanfa Gyffredinol yn cynnwys addoliad dyddiol, darlithoedd a sesiynau busnes pryd y bydd y cynrychiolwyr yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion allweddol i’r Eglwys. Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ystod y Gymanfa Gyffredinol hefyd.
Y Llywydd sy’n cadeirio’r Gymanfa Gyffredinol. Bydd y Llywydd yn cyflwyno araith ymadawol ar ail noson y Gymanfa Gyffredinol a bydd y Llywydd etholedig wedyn yn esgyn i’r gadair.
Cymanfa Gyffredinol 2026
Cynhaliwyd Gymanfa Gyffredinol 2026 yng Nghapel y Porth, Porthmadog ar y 6-7fed o Orffennaf, 2026.
Cymanfa Gyffredinol 2025
Cynhaliwyd Gymanfa Gyffredinol 2025 yn Eglwys Goddaeth, Llandudno ar y 7-9fed o Orffennaf, 2025.