gwaith Chwiorydd
Thema
Yn flynyddol mae gan is-bwyllgor y Chwiorydd thema am y flwyddyn. Mae’r thema yn helpu ni ffocysu ar ein gwaith a byddwn yn defnyddio’r adnod/au yn ystod digwyddiadau’r Chwiorydd. Eleni, rydym wedi paratoi llyfryn deiniadol sy’n llawn o syniadau ar y Thema ynghyd a newyddion am ein prosiectau adref a thramor.
What we Do
Astudiaethau Beiblaidd ar Zoom
Mae’r rhain yn cael eu cynnal bob pythefnos ar nos Lun rhwng 7 ac 8.15pm. Mae’r rhan fwyaf o’r amser yn cael ei dreulio yn edrych ar ddarn o’r Beibl ac mae amser hefyd i drafod mewn grwpiau bach. Mae’r Astudiaethau wedi profi i fod yn gyfnod hyfryd o gymdeithas, wrth i ni rannu ein profiadau a dysgu o Air Duw gyda’n gilydd. Ymhlith y cyfresi diweddar mae Gweddïau’r Beibl, Llyfr y Diarhebion a Merched a gyfarfu â Iesu.
Mae’r ddolen Zoom ar gael gan Eirian Roberts 01678 52006
Adnoddau Dementia
Mae cyfres o adnoddau ar gael i eglwysi ac unigolion i godi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth ysbrydol. Yn anffodus, mae nifer y bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yn cynyddu, gan gynnwys llawer o’n haelodau. Credwn y gall yr eglwys gynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Mae’r Llawlyfr Eglwysig yn darparu gwybodaeth am ddementia, canllawiau ar gyfer eglwysi sy’n dymuno gweinidogaethu’n briodol a llawer o syniadau ymarferol. Hefyd ar gael mae’r llyfryn Gweddïau Gwerthfawr, llyfr o adnodau o’r Beibl, emynau a lluniau o bob cwr o Gymru a Cdd Trysorau’r Ysgol Sul sy’n cynnwys emynau ysgol Sul, darlleniadau Beiblaidd a gweddïau.
Mae’r rhain hefyd ar gael gan Eirian Roberts 01678 52006 neu e-bostiwch eirian.roberts@ebcpcw.cymru
Llyfr Thema ac Adnoddau
Bob blwyddyn dewisir adnod o’r Beibl i fod yn thema ar gyfer y flwyddyn honno. Ein gobaith yw creu undod ar draws ein heglwysi wrth i chwiorydd o bob cwr o Gymru astudio’r un adnod gyda’i gilydd ac y bydd yr adnod a ddewiswyd yn rhoi ffocws arbennig i’n gwaith. Mae’r Llyfr Thema ac Adnoddau yn cynnwys ystod eang o erthyglau a gellir ei ddefnyddio gan grwpiau ac unigolion. Mae Gwasanaeth a chyfres lawn o Astudiaethau Beiblaidd sy’n ein helpu i archwilio’r adnod Thema yn ogystal â thystiolaethau gan ein haelodau a’n gweithwyr sy’n ymwneud â’r adnod. Rydym yn cynnwys diweddariadau o’n Prosiectau Cenhadol rhyngwladol a newyddion am waith cenhadol yng Nghymru. Gwyddom fod ein chwiorydd yn cael eu hannog drwy’r defnydd o’r Llyfr Thema ac Adnoddau a bod copïau hefyd yn cael eu rhoi i ffrindiau a chymdogion.
Mae copïau caled ar gael gan Eirian Roberts 01678 52006
Rhaglen Dorcas
Cefnogir gwaith y Chwiorydd gan Raglen Dorcas, a grëwyd oherwydd dymuniad Adran Chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru i gynorthwyo merched ein capeli i rannu eu ffydd yn yr Arglwydd Iesu.
Mae’r Rhaglen yn darparu adnoddau pwrpasol ar gyfer y Chwiorydd, megis astudiaethau Beiblaidd, a syniadau ar gyfer digwyddiadau ymestyn allan i ferched yn y Gymuned.
Mae gennym ddwy cydlynydd – yn y Gogledd Carys Davies ac yn y De Sarah Morris. Mae’r ddwy ar gael i ymweld â grwpiau i gynnig anogaeth neu i annerch. Cewch gysylltu â nhw drwy e-bost neu ffôn:
Carys Davies
Eirian Roberts
Sarah Morris
Y Bwletin Cenhadol
Darperir newyddion rheolaidd gan Eirian Roberts, cydlynydd gwaith y Chwiorydd, drwy’r Bwletin Cenhadol. Mae’r Bwletin yn cael ei gynhyrchu dwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys diweddariadau o’r prosiectau Cenhadol, newyddion am waith cenhadol yng Nghymru a gwybodaeth am y Sasiynau Cenhadol a’r Enciliai.
Mae copïau ar gael gan Eirian. Mae Eirian hefyd ar gael i ymweld â grwpiau.