Skip to content

Rhewl

Mae Capel Rhewl yn gapel cyfeillgar a chroesawus iawn. Ceir gwasanaeth unwaith y Sul ac Ysgol Sul i’r plant am 10yb. Pan fydd pregeth yn y bore daw’r plant i’r gwasanaeth am ryw chwarter awr a chael sgwrs neu stori gan y pregethwr cyn mynd i’r Ysgol Sul. Mae’r plant yn cyfrannu at wasanaethau Diolchgarwch a Nadolig a cheir parti ac ymweliad gan Sion Corn yn flynyddol. Trefnir trip iddynt hefyd yn yr haf. Bydd y plant a’r ieuenctid hefyd yn mwynhau gweithgareddau a drefnir gan y  fro – gweithgareddau fel G?yl Hwyl Ysgolion Sul a CIC (Clwb Ieuenctid Cristnogol). Cynhelir Cymdeithas y Chwiorydd yn ystod misoedd y gaeaf a bydd croeso i’r dynion ymuno.

Parch Morris P. Morris

Rhewl, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2UD