Pencaenewydd
Dyma gapel bach prysur sy’n ganolfan y pentref. Cynhelir oedfa wythnosol ac mae ysgol Sul fywiog yn cyfarfod am 11:15yb. Mae’r plant a’r bobl ifanc yn gyfrifol am y gwasanaeth adeg y Nadolig, Diolchgarwch ac ar achlysuron eraill. Mae’r Gymdeithas Lenyddol yn cyfarfod bob pythefnos yn y gaeaf ac mae Cymdeithas y Chwiorydd yn cyfarfod yn fisol. Defnyddir y festri gan grwpiau a mudiadau eraill hefyd.
D. Aled Davies (B)
Pencaenewydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6RB