Skip to content

Noddfa, Caernarfon

Mae Noddfa yn Eglwys Gymunedol wedi ei lleoli yng Nghanolfan Noddfa, Peblig, Caernarfon. Rydym yn eglwys fywiog, anffurfiol a chroeswgar sy’n gwasanaethu’r ardal leol.

Beth sydd yn mynd ymlaen? Dyma rai o’r digwyddiadau cyson:

  • Oedfa ac ysgol Sul bob Sul. 
  • Oedfa deulu unwaith y mis. 
  • Cyfarfodydd gweddi. 
  • Dathliadau a diwrnodau arbennig fel Parti’r Pentecost, Hwyl yr Haf a llawer mwy!
  • Clybiau plant a phobl ifanc yn rhad ac am ddim.
  • Gwasanaeth cyngor a chymorth, materion budd-daliadau, dyledion a chynilo.
  • Cynlluniau Chwarae Pasg a gwyliau’r haf.
  • Te bach am 2:30yh ar brynhawn Llun olaf y mis, am ddim i unrhyw un sydd yn dymuno ymuno!
  • BARA: gwasanaeth cefnogi cyn-garcharorion, carcharorion a’u teuluoedd, a bws ymweliadau i’r carchar.
  • Clwb Tlws – Clwb i ferched 11+ yn cyfarfod bob Nos Lun am 5
  • Clwb Cic i blant 7-11 oed yn cyfarfod Bob Nos Iau am 5:30
  • Grwp Drocas yn cyfarfod bob yn ail dydd Iau am 1:30
     

…a drws agored i bawb!

Mae dwy weithwraig llawn amser yn y swyddfa sy’n cael eu cyflogi gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Dewch draw i gyfarfod Llinos a Mererid neu codwch y ffon:  01286 672257.

Parch Anna Jane Evans

Cil Peblig, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2RS