Skip to content

Gwynfil, Llangeitho

Adeiladwyd capel Gwynfil yn 1760 ar gyfer cymuned o Fethodistiaid Calfinaidd a sefydlwyd yn 1735. Mae gan yr eglwys gysylltiadau cryf iawn gyda Daniel Rowland (1713-90), curad Llangeitho ac un o sefydlwyr Methodistiaeth Gymraeg. Cafodd y capel ei ailadeiladu neu ei wella yn 1764, 1813 a 1861-3. Y tu allan i’r capel mae cerflun marmor o Rowland. Heddiw, cynhelir oedfa wythnosol am 2yh ar ddydd Sul. (Cymraeg yn unig)

Cyswllt: Eirian Jones (Blaenor ac Ysgrifennydd)
E-bost: ymhol@capelgwynfil.cymru / eirianjones7@gmail.com

Rhwydweithiau Cymdeithasol: –

Ysgol Sul: –

Clybiau: –

Arall: Cwrdd diolgarwch, carolau bob blwyddyn

Llangeitho, Ceredigion, SY25 6TW