Skip to content

Cefn Meiriadog

Eglwys gynnes, gyfeillgar yw Capel Cefn Meiriadog sy’n rhan o Ofalaeth Bro Aled.

Cynhelir Cyfarfod Gweddi byr am 10.10 ar ddechrau’r Sul i godi ein deisyfiadau i Dduw.

Cynhelir Oedfa bron bob Sul am naill ai 10.30yb neu 2.00yp, ac ar y Suliau eraill byddwn yn mynd i Gapel Soar, Llanfair Talhaiarn i gyd-addoli.

Cynhelir yr Ysgol Sul bob wythnos ar wahân i fis Awst   

Mae Oedfa i’r Fro am 6.00 bob nos Sul yng Nghapel Coffa Henry Rees, Llansannan, neu os oes pumed Sul yn y mis, bydd Oedfa’r Fro yn mynd ar daith i un o eglwysi eraill y Fro. 

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd i’r Ofalaeth yn ystod yr wythnos – Cyfarfod Gweddi, Cyfarfod y Plant, Clwb Ieuenctid Cristnogol, CIC+, Astudiaeth Feiblaidd, Torri Syched y Dynion, Torri Syched y Merched, yn ogystal â rhai cyfarfodydd achlysurol eraill.

Mae Cinio Misol yma yn y festri ar yr ail ddydd Mawrth am 12.15yp – cyfle i gael cwmni a sgwrs dros ginio.

Mae’r Gymdeithas Lenyddol yn cwrdd yn fisol dros y gaeaf gyda rhaglen amrywiol.

Dewch i ymuno â ni. Cewch fwy o wybodaeth am holl ddigwyddiadau’r Ofalaeth yn Llais Bro Aled, papur wythnosol y Fro.  Medrwch ei lawrlwytho oddi ar ein gwefan: eglwysibroaled.com, neu cysylltwch â’r ysgrifennydd.

Parch. Ddr. Rhodri Glyn

Cefn Meiriadog, Llanelwy, Sir Ddinbych,?LL22 9DR