Carmel, Llanilar
Mae Carmel yn un o ddeuddeg eglwys yng Nghofalaeth Llanilar a’r Cylch. Mae 55 o aelodau a 10 o blant, y mwyafrif ohonynt o dan 6 oed. Cynhelir gwasanaeth yr Ofalaeth ar Sul cyntaf bob mis. Mae Cymdeithas Lenyddol Llanilar yn cyfarfod yng Ngharmel bob yn ail nos Iau yn ystod tymor y gaeaf. Ymunwn gyda’r Eglwys yng Nghymru i drefnu Te Bara a Chaws ym mis Mai i gefnogi Cymorth Cristnogol.
Llanilar, Ceredigion, SY23 4SA