Capel y Porth
Mae Capel y Porth yn eglwys fywiog sy’n cyfarfod mewn adeilad modern. Mae’r clwb ieuenctid yn cyfarfod bob nos Wener a’r ysgol Sul yn ystod oedfa’r bore. Mae’r aelodau yn trefnu gwasanaethau ar wahanol themâu o bryd i’w gilydd ac mae’r gwasanaethau hyn yn dra phoblogaidd. Gweler ein gwefan am wybodaeth bellach.
Parch Christopher Prew
Stryd Madog, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9DB