Skip to content

Capel y Drindod, Pwllheli

Rydym yn cynnal dwy oedfa bob Sul, am 10yb a 5yh, ac mae ysgol Sul i’r plant am 10yb ac un i’r oedolion am 2yh. Ymysg ein gweithgareddau eraill, y mae:

  • Cyfarfod i eglwysi’r ofalaeth bob nos Lun am 7 (seiat neu cyfarfodydd gweddi) yn y Drindod.
  • Aelwyd y Chwiorydd bob yn ail ddydd Llun am 2yh a bob yn ail nos Fawrth am 7yh.
  • Clybiau plant ac ieuenctid yr ofalaeth bob nos Fercher – y plant am 6yh a’r ieuenctid am 7yh, yn y Drindod.
  • Cyfarfodydd gweddi i eglwysi’r ofalaeth ynghyd ag eglwys Penlan (A) bob bore Gwener am 10 yb (yng nghapel Penlan fel arfer ond yn Ala Road ar y pedwerydd dydd Gwener o bob mis – a’r pumed pan fydd un).
  • Cymdeithas ddiwylliannol yn cyfarfod bob yn ail nos Wener am 7yh.

Heblaw am yr oedfaon, mae’r cyfarfodydd eraill yn dod i ben yn ystod tymor yr haf. Ceir oedfaon ar y cyd efo eglwysi anghydffurfiol eraill y dref yn ystod mis Awst, am 10yb a 5yh.

Parch W. Bryn Williams

Stryd Fawr, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5SG