Skip to content

Capel Tegid, Y Bala

Mae Eglwys Unedig Tegid a Llanfor, Bala, yn un saith eglwys sy’n ffurfio Gofalaeth Ardal Thomas Charles. Cynhelir oedfa bore Sul am 10yb ac oedfa yr hwyr am 5yh. Mae’r plant yn ymuno ar ddechrau’r oedfa bore ac yna yn mynd allan i’r Ysgol Sul. 

 

Cynhelir cyfarfodydd wythnosol, Cyfarfod Gweddi, Dosbarth Disgyblion Iesu a’r Gymdeithas  Lenyddol ar Nos Fawrth am 7-00yh. Mae gennym ddwy Gymdeithas Chwiorydd sy’n cyfarfod unwaith y mis, un yn y prynhawn a’r llall yn yr hwyr. Mae gweithgarwch gyda  phlant ac  ieuenctid mewn cysylltiad â Choleg y Bala. 

 

Parch. Eric Greene

Heol Tegid, Y Bala, Gwynedd, LL23 7EL