Dan Arweiniad Ffydd. Yn Gwasanaethu Cymru.
Eglwys wedi ei Gwreiddio mewn Diwygiad. Yn Fyw Heddiw.
Wedi ei geni allan o ddiwygiad Methodistaidd y 18fed ganrif, rydym yn parhau i osod Duw wrth galon ein gwaith.
Rydym yn enwad dwyieithog sy’n gwasanaethu cymunedau ledled Cymru. Mae ein heglwysi’n amrywio o ran maint a chyd-destun, ond yn rhannu un pwrpas: addoli Duw, cyhoeddi Crist, a gofalu am bobl.
Cyrraedd Y Tu Hwnt i’n Muriau
Ledled Cymru, rydym yn datblygu prosiectau cenhadol arloesol sy’n cysylltu â phobl y tu hwnt i leoliad traddodiadol y capel.
O fanciau bwyd a mannau cynnes i fentrau cymunedol a chynulliadau addoli newydd, rydym yn ceisio rhannu cariad Crist mewn ffyrdd ymarferol ac ystyrlon.
Plant a Phobl Ifanc
Mae’r Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn ymrwymo i ddysgu, yn gywir a chreadigol, ein plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a’n teuluoedd, beth yw cynnwys a pherthnasedd y Beibl. Anogir hwy i gymhwyso’r ddysgeidiaeth i’w bywyd personol er mwyn bod yn ddisgyblion ffyddlon i Iesu Grist ac yn ddinasyddion cywir.’
Cenhadaeth a Gwaith Cymunedol
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn creu cysylltiadau gyda phobl o wahanol gefndiroedd yng Nghymru a thu hwnt, gan ddangos cariad Duw a’i le ym mywydau pobl.
Mae ein heglwysi lleol yn ganolog i’n cenhadaeth. Maent yn gweithio o fewn eu cymunedau, yn estyn allan mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r Eglwys yn ganolog yn eu cynorthwyo trwy ddarparu hyfforddiant a gweithwyr penodol.
Fideos a Chyfryngau
Darganfyddwch ein gwahanol lwyfannau cyfryngau yma. Mae gennym amrywiaeth o gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg, fideos, podlediadau, a newyddion a digwyddiadau diweddaraf.
Adnoddau i Weinidogion ac Arweinwyr
Mae EBC yn annog dynion a menywod fel chi – y rhai sydd â’r ymroddiad a’r doniau angenrheidiol – i ystyried a yw Duw yn eich galw i fod yn arweinydd yn ei Eglwys. Cliciwch yma i ddysgu mwy.
Cyfryngau a Chyhoeddiadau
Buddsoddi yn y Genhedlaeth Nesaf
Trwy ein gwaith cenedlaethol gyda Phlant a Phobl Ifanc, rydym yn arfogi eglwysi, arweinwyr a theuluoedd i feithrin ffydd ymhlith pobl ifanc.